Comments on: does this make sence? Welsh language?

By: Cymro i'r Carn
Ychydig o gamgymeriadau, treiglo, sillafu a gramadeg  ond dwi wedi cywiro nhw i gyd i chi, Dyma’r darn sydd wedi’i gywiro

Dwi’n meddwl bod yr ysgrifennwr y gerdd hon, Myrddin ap Dafydd, yn glyfar iawn. Trwy’r gerdd mae’n defnyddio llawer o dechnegau gwahanol yn cynnwys trosiadau, rhediad, englyn milwrol ac wrth gwrs y cynghanedd sy’n enwog dros y byd i gyd.

Mae’r gerdd, sydd amdano cenedlaetholdeb, yn trio rhoi neges i’r darllenwr mewn llawer o ffurfiau gwahanol a mae’n ceisio gwneud  i chi meddwl am eich gwlad a beth dylwn gwneud drosti.Prif neges y gerdd hon yw dylai’r Cymry cefnogi’u gwlad mewn gwahanol ffurfiau, etholiadau yn bennaf.

Rydym yn gallu gweld bod pleidleisio yn fwy bwysig i’r bardd na chwaraeon cenedlaethol. Dwi’n cytuno gyda’r bardd yma achos nid yw chwaraeon mor bwysig â phleidleisio, ac yn fy marn I dylai mwy o bobl wedi pleidleisio dros Senedd I Gymru.

Hyd yn oed fy mod i’n cytuno gyda’r bardd yma, dwi’n meddwl ei fod e’n gallu mynd tipyn bach dros ben llestri weithiau gyda rhai o’r pethau mae’n dweud. Dydw i ddim yn gallu gweld sut fuasai’r cynulliad yn medru rhedeg gwlad ar ei ben ei hun heb help Lansteffan . Rydym mewn dirwasgiad ar hyn o bryd. Ond, dwi’n gallu gweld pam mae’r bardd eisiau mwy o rym i’r llywodraeth. Mae e am weld diwylliant Cymru’n parhau.  Dwi’n meddwl bod pobl yn cael dweud eu dweud mwy gyda’r cynulliad achos rydych yn gallu cysylltu â’ch Aelod y Cynulliad neu’ch Aelod Seneddol, felly yn gobeithio, fe fasen nhw rhoi eich barn i’r Cynulliad neu’r Senedd yn Llundain.

Mae’r bardd yn defnyddio trosiadau trwy’r gerdd er mwyn cyfleu ei neges. Mae’n dweud, “mae eisiau emosiwn, mae eisiau hwyl”, dwi’n meddwl bod y bardd yn ceisio argyhoeddi y dylem defnyddio ein hemosiwn a’n hwyl dros Gymru ac nid gêm rygbi yn unig. Dwi’n hoffi cefnogi Cymru mewn pethau fel ‘ny ond pryd mae’n bosib i mi bleidleisio, byddaf yn siŵr o wneud.

Dwi’n hoffi’r ffordd mae’r bardd yn defnyddio gwrthgyferbyniadau rhwng pethau er mwyn cyfleu’i neges a hefyd dwi’n meddwl eu bod nhw’n helpu’r darllenwyr i ddeall barn y bardd.

Dwi’n hoffi’r gwahaniaeth rhwng gwr a hogiau. Dwi’n cytuno gyda fe achos mae’n dweud dim ond bechgyn sy’n chwarae chwaraeon a gwr sy’n pleidleisio. Dwi’n meddwl bod hyn yn gwneud i chi beri meddyliau am y sefyllfa a phobl ifanc yn arbennig.

Mae’r bardd yn ceisio dweud wrth y darllenwyr mae’n hawdd i fynd i Gaerdydd a mwynhau eich hunain a meddwi am bethau fel chwaraeon cenedlaethol ond pan mae’n dod i bethau difrifol mae’n anodd bod yn Gymro.